Cwtsh app for iPhone and iPad
Developer: Cwmni Digidol
First release : 25 Sep 2014
App size: 10.04 Mb
Cwtshiwch lan gyda’ch hoff luniau am Gymru a beth mae’n ei olygu i chi – pobol,
llefydd, atgofion,digwyddiadau - ac ymunwch â chymuned Cwtsh sy’n cyflwyno
y gorau am Gymru i’r byd. Edrychwch pwy sydd wedi cwtshio lan i’ch lluniau
chi. Mae Cwtsh yn ap ffotograffig dwyieithog sy’n dod â ni gyd at ein gilydd, sy’n
cynnig ymdeimlad o berthyn i le i bobl Cymru – ac i gyfeillion Cymru. Chwiliwch
am lefydd newydd a darganfyddwch Gymru o’r newydd. Gadewch i bopeth
Cymreig eich ysbrydoli. Cymerwch a darganfyddwch y lluniau sy’n gwneud
Cymru...yn Gymru.
- Tynnwch luniau a’u rhannu
- Dewch o hyd i luniau o’ch cynefin
- Ymunwch ag eraill wrth ddal digwyddiadau mawr Cymru mewn lluniau
- Darganfyddwch pwy sy’n ‘cwtshio’ eich lluniau chi
- Dilynwch eraill o’r un anian
- Anogwch eich ffrindiau i ymuno